dv talenthome of dv excellence














   
TRAINING | FAST TRACK SERIES PRODUCER TRAINING

Mae cynllun ‘The Fast Track’ ar gyfer Cynhyrchwyr Cyfres yn rhaglen hyfforddi arloesol newydd, wedi’i anelu at feithrin y genhedlaeth nesaf o uwch dalent cynhyrchu.

Dan arweiniad rhai o wneuthurwyr rhaglenni mwyaf dylanwadol y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Robert Thirkell, datryswr problemau teledu a Golygydd Cyfres Jamie’s School Dinners, bydd y cwrs yn darparu cyfle i gynhyrchwyr llawrydd profiadol gael sgiliau rheoli, golygyddol a chreadigol allweddol sydd eu hangen i fod yn Gynhyrchydd Cyfres llwyddiannus.

Cynhelir ‘The Fast Track’ dros chwe mis ac mae’n cynnwys wythnos o ddosbarthiadau meistri dwys a gweithdai ymarferol, yn cael eu dilyn gan ddwy sesiwn hyfforddi penwythnos, a dau ddiwrnod arall o’r wythnos. Yn ogystal â mentora unigol, bydd hefyd yn cynnwys mynediad unigryw at Weithredwyr a Chomisiynwyr allweddol drwy gyfres o ddigwyddiadau rhwydweithio.

Mae’r cynllun yn agored i gynhyrchwyr/ cyfarwyddwyr – neu gyffelyb – is Gynhyrchwyr Cyfres neu Weithredwyr sy’n byw yng Nghymru ac sydd am loywi eu sgiliau cynhyrchu cyfres. Bydd gan yr ymgeiswyr brofiad helaeth o wneud rhaglenni. Rydym yn arbennig o awyddus i hyfforddi’r rhai sy’n gweithio yn y maes ffeithiol, adloniant ffeithiol a materion cyfoes.

Bydd y cwrs ymarferol yn cwmpasu’r holl sgiliau angenrheidiol i gynhyrchu cyfres yn hyderus, yn cynnwys adfer deunydd wrth olygu, rheoli pobl, trafod talent, cydymffurfiaeth, cyllidebau a rhaglenni 360°.

Am fwy o fanylion cliciwch yma (Cymraeg)

cliciwch yma am ffurflen gais